Cwricwlwm i Gymru
Ein Gweledigaeth
Rhoi’r addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl fel eu bod yn llwyddo i fod yn unigolion galluog, uchelgeisiol a gwydn sy’n gwireddu eu llawn botensial ym mhob agwedd o’u bywydau.
Ein Gwerthoedd

Y Pedwar Diben
Mae’r pedwar diben wrth galon ein cwricwlwm newydd. Y pedwar diben yw man cychwyn cynllunio ein cwricwlwm wrth i ni alluogi ein disgyblion i wireddu’r pedwar diben erbyn iddynt adael Ysgol Gyfun Llangefni.
Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi ein disgyblion i fod yn:
• ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu hoes;
• ddinasyddion egwyddorol, gwybodus o Gymru a'r byd;
• gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
• unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Meysydd Dysgu a Phrofiad
Bydd cwricwlwm Ysgol Gyfun Llangefni yn cael ei drefnu yn 6 Maes Dysgu a Phrofiad:
• Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (Cymraeg, Saesneg, Ieithoedd Rhyngwladol)
• Dyniaethau (Hanes, Daearyddiaeth, Crefydd, Gwerthoedd, Moeseg, Astudiaethau Busnes, Astudiaethau Cymdeithasol)
• Mathemateg a Rhifedd
• Celfyddydau Mynegiannol (Celf, Cerddoriaeth, Dawns, Ffilm, Ffotograffiaeth, Cyfryngau Digidol)
• Iechyd a Lles (Addysg Gorfforol, Garddio, Awyr Agored, Iechyd a Lles, Bwyd a Maeth)
• Gwyddoniaeth a Thechnoleg (Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Ddigidol, Ffiseg)